Dim 7’s Aberaeron eleni.

Y tywydd sych yn effeithio ar chwaraeon.

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis

Yn dilyn cyfarfod ag ymchwiliad o’r cae chwarae nôs Iau, gwnaed y penderfyniad i ganslo’r gystadleuaeth am eleni.

Dyma ddatganiad gan y pwyllgor:

“Yn dilyn archwiliad o gae chwarae Clwb Rygbi Abéaeron heno, daeth y pwyllgor i benderfyniad anodd iawn, sef canslo’r Gystadleuaeth Saith Bob Ochr ar benwythnos Gŵyl y Banc, sef 26 – 28 Awst.

Diogelwch chwaraewyr gafodd flaenoriaeth wrth wneud y penderfyniad anodd hwn.

Oherwydd cyfnod hir o dywydd sych a’r rhagolygon yn dangos ychydig iawn o law, ’roedd yn bwysig gwneud y penderfyniad cyn gynted â phosib.

‘Rydym yn siwr bydd hyn yn siom i bawb, ond gobeithio yn fawr y bydd 7’s Aberaeron yn ôl yn gryfach ac yn well yn 2023.”

Aelodau Pwyllgor Clwb Rygbi Aberaeron.