Sesiynau hyfforddi i ferched ifanc yn llwyddiant ysgubol yn Nyffryn Aeron

Clwb Pêl-droed Felinfach yn cyflwyno sesiynau pêl-droed i ferched rhwng 4 ac 11 mlwydd oed

gan Rhodri Jones

Cynhaliwyd sesiynau hyfforddi pêl-droed i ferched rhwng pedair ac unarddeg mlwydd oed ar Gae Chwarae Felinfach yn ystod haf tanbaid 2022.

Bwriad cynllun Huddle yw cynnig cyfle i ferched ifanc ledled Cymru i syrthio mewn cariad â phêl-droed.

Dywedodd rhieni wrthym fod eu merched wrth eu bodd yn dod draw i Huddle oherwydd ei fod yn hwyl, gallant archwilio gwahanol gemau gyda’u ffrindiau ac maent yn dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd hamddenol.

‘Yn ystod y 10 sesiwn diwethaf rydym wedi cael 372 o ferched rhwng 4-11 oed yn mynychu.’ ?

Diolch arbennig i’r pedwar hyfforddwr Rhys, Joe, Gethin, Gareth ac i’r holl wirfoddolwyr Bethany, Sandra, Mair a phawb arall sydd wedi helpu.

Bydd y sesiynau yma yn ail ddechrau yn ystod mis Medi. Bydd gwybodaeth bellach ar gael ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol CPD Felinfach cyn hir.