Tregaron 17 – 66 Aberaeron

Dechrau da i`r tymor!

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
received_631097805099825

Tudur Jenkins a’i nai, Gethin Jenkins wedi gwireddu breuddwyd o chwarae gêm gystadleuol gyda’i gilydd dros Aberaeron.

Sgoriwyd deg cais gan yr ymwelwyr mewn gwledd o rygbi yn Nhregaron ddydd Sadwrn.

Dyna ddechrau da i’r tymor i’r hyfforddwyr newydd – Ryan Williams a Dyfrig Dafis. Gobeithio bydd y llwyddiant yn parhau ddydd Sadwrn nesa pan fydd Aberaeron yn croesawu Tŷ Ddewi i Barc Drefach.

Sgoriwyd ceisiau Aberaeron gan Ceri Davies, Morgan Llewelyn (2), Bedwyr Davies, Steffan Jones, Gethin Dafis, Ifan Davies (2), Siôn Evans a Gareth James. Troswyd wyth o’r ceisiau gan Rhodri Jenkins.

Baglan

Bydd Aberaeron yn chwarae i ffwrdd yn erbyn Baglan mewn gêm rownd gyntaf yng Nghwpan Undeb Rygbi Cymru ar ddydd Sadwrn 17 Medi.

Mae yna fws wedi’i drefnu ar gyfer yr ymweliad â Baglan.

Gofynnir i gefnogwyr sydd am le ar y bws i gysylltu â’r clwb mor fuan â phosib er mwyn cadw sedd.