CFfI Felinfach yn dechrau nôl – ffansi ymuno?

Dere i ymuno â Felinfach, Nos Lun 12 Fedi am 7:30 yn Neuadd Felinfach!

Alaw Fflur Jones
gan Alaw Fflur Jones
304844063_5119787664815708

Nos Lun 12 Medi – CFfI Felinfach yn dechrau nôl!

Wyt ti rhwng 10-28 oed ac yn ffansio cwrdd â ffrindie newydd? Dysgu sgiliau newydd? Mynd ar dripiau? Chwarae chwaraeon? Gweithio fel tîm? A chael lot o chwerthin a sbort!

Wel dere i ymuno â CFfI Felinfach nos Lun nesa, 12 Medi am 7:30 yn Neuadd Felinfach.

Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd!

Pam ymuno?

Cei gyfle i gymdeithasu bob nos Lun am 7:30-9:30 yn Neuadd Felinfach. Cei hefyd gyfle i greu ffrindiau newydd, datblygu sgiliau gwahanol a chystadlu mewn amryw gystadlaethau o farnu stoc, Eisteddfod, Panto, chwaraeon a lot mwy! Mae rhywbeth at ddant pawb!

Ishe gwybod mwy? 

Am wybodaeth pellach, paid ag oedi, cysyllta â Mared Jones ar 07527618253.