Band Adamant x2 yng Ngharnifal Aberaeron!

Croeso nôl i’r Carnifal!

gan Lena Jenkins
236076C6-7F0C-4A70-A385

Grêt oedd gwel strydoedd Aberaeron dan ei sang Dydd Llun Gwyl y Banc unwaith yn rhagor eleni!

Y Carnifal oedd wedi denu’r dyrfa wrth gwrs ac ôl yr arfer Band Jazz Adamant o Gaerdydd oedd yn arwain yr orymdaith.
Ond nid dyna’r unig Fand Adamant!

Fel arwydd o ddiolch am ei ymroddiad a’i ffyddlondeb mi wnaeth Cangen Cylch Aeron o Ferched y Wawr ddynwared  y Band mewn ffordd hwyliog a blewog!!