Eisteddfod Gadeiriol Felinfach yn ôl eleni!

Eisteddfod Gadeiriol Felinfach

gan Wyn Maskell

Rydym yn falch i ddweud y bydd Eisteddfod Gadeiriol Felinfach yn cael ei chynnal eleni ar ddydd Gwener, 30ain o Fedi yn Neuadd Goffa Felinfach – yr ‘Adran Gyfyngedig’ gan Ysgol Gynradd Felinfach am 1yp ac yna’r ‘Adran Agored’ am 5.30yh.

Ma gyda ni amryw o gystadlaethau at ddant pawb – beth am rhoi tro arni? Beirniad cerdd yn yr adran gyfyngedig yw Iris Hawkins, Ciliau Aeron, ac yn yr adran llefaru, Mair Jones, Aberaeron. Yn yr adran agored mae Siw Jones, Felinfach yn beirniadu’r adran gerdd, ac yn yr adran Llefaru a Llên, Mrs Beryl Vaughan, Y Trallwng fydd yn feirniad.

Rhaid i’r gwaith llenyddol fod yn llaw’r beirniad erbyn 20fed o Fedi 2022. Rhaid danfon y ceisiadau at Mrs Beryl Vaughan, Tŷ Mawr,  Llanerfyl, Y Trallwng, Maldwyn, Powys, SY21 0JD.

Yr Ysgrifenyddes yw Meinir Lewis, Lleifior, Ystrad Aeron, Llanbedr Pont Steffan. Rhif Ffôn – 01570 471 050.

Dewch i fwynhau bwrlwm Eisteddfod leol y wlad. Mi fydd y drysau’n agor am 12.30yp i ddechrau’n brydlon am 1.00yp. Croeso arbennig i bawb. Welwn ni chi ’na!Eisteddfod Gadeiriol Felinfach