A fuoch chi ’rioed yn morio?

Sesiynau chwaraeon dŵr Cymraeg yn y Cei yn boblogaidd

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Yn heulwen mis Awst Cei Newydd trefnodd Cered: Menter Iaith Ceredigion pedwar diwrnod o weithgareddau chwaraeon dŵr trwy gyfrwng Cymraeg i blant a phobl ifanc Ceredigion diolch i gyllid Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru.

Trefnwyd y gweithgareddau yma gan Cered o gofio fod chwaraeon dŵr megis padlfyrddio wedi tyfu mewn poblogrwydd yn lleol dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf.

Hefyd, mae Cered wedi bod yn cefnogi’r cynllun Dyfodol Gwledig yn y Cei dros y blynyddoedd diwethaf a hynny er mwyn ceisio darganfod ffyrdd o hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn y dref. Yn hynny o beth, roedd gallu cydweithio gyda Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion a’u llond llaw o staff Cymraeg hoffus ar gyfer peilota sesiynau Cymraeg fel hyn yn wych.

Yn ystod y sesiynau roedd 4 sesiwn yn cael eu cynnig yn ystod yr wythnos sef:

  • Hwylfyrddio
  • Padlfyrddio
  • Caiacio
  • Hwylio

Dywedodd Siriol Teifi a fu’n cydlynu’r sesiynau ar ran Cered:

“Roedd hi’n braf cael cydweithio gyda Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion er mwyn cynnig sesiynau cyfrwng Cymraeg. Gobeithio gallwn weithio gyda’n gilydd yn fuan eto. Diolch i’r plant a ddaeth i’r gweithgareddau, roedd yn dipyn o sbort eu gweld nhw allan ar y môr.”