Cwestiwn ac ateb gyda Swyddogion newydd CFfI Felinfach…
Cadeirydd – Mared Jones
Hoff gêm yn noson sosial? Her y fainc
Peth gore am fod yn aelod o CFfI Felinfach? Cymdeithasu gyda chyd-aelodau
Hoff gystadleuaeth Sir? Rali
Atgof sy’n gwneud ti’n falch o fod yn Ffarmwr Ifanc? Ennill tîm barnu stoc yn Rali 2022, ac wrth gwrs ennill y rali hefyd!
Ffaith ddiddorol? Cwblhau gradd 8 ar y delyn a’r piano, neu yn fwy diddorol byth…ma fy mysedd i yn double jointed!
Is-gadeirydd – Gwern Thomas
Hoff gêm yn noson sosial? Her y balŵn
Peth gore am fod yn aelod o CFfI Felinfach? Cael cyfleoedd bysen i byth yn cael fel arall, er enghraifft cyfle i fynd i’r Alban ym mis Hydref.
Hoff gystadleuaeth Sir? ATV yn Niwrnod Maes y Sir
Atgof sy’n gwneud ti’n falch o fod yn Ffarmwr Ifanc? Ennill Rali a chael fod yn is-gadeirydd clwb!
Ffaith ddiddorol? Fi’n godro defed
Ysgrifennydd – Ffion Evans
Hoff gêm yn noson sosial? Knight, Cavalier a Jockey
Peth gore am fod yn aelod o CFfI Felinfach? Joio gyda chyd-aelodau
Hoff gystadleuaeth Sir? Rali
Atgof sy’n gwneud ti’n falch o fod yn Ffarmwr Ifanc? Cynrychioli’r clwb mewn cystadlaethau Sirol a Chenedlaethol
Ffaith ddiddorol? Fi yw’r 3ydd genhedlaeth i ymuno gyda’r busnes teuluol Evans Bros, ond y ferch gyntaf i wneud!
Ysgrifennydd Cofnodion – Alaw Mair Jones
Hoff gêm yn noson sosial? Wheelbender
Peth gore am fod yn aelod o CFfI Felinfach? Cydmeithasu gydag aelodau o bob oedran
Hoff gystadleuaeth Sir? Cystadleuaeth yr adloniant
Atgof sy’n gwneud ti’n falch o fod yn Ffarmwr Ifanc? Cael fy ngwneud yn Aelod Iau FfCCFfI yn 2018 a bod yn rhan o Faes G yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiweddar.
Ffaith ddiddorol? Fi’n gallu gwnïo a gwau!
Trysorydd – Iwan Jenkins
Hoff gêm yn noson sosial? Wheelbender
Peth gore am fod yn aelod o CFfI Felinfach? Cymdeithasu bob nos Lun
Hoff gystadleuaeth Sir? Tractor a Loader
Atgof sy’n gwneud ti’n falch o fod yn Ffarmwr Ifanc? Ennill Rali Tregaron a leni ‘to!
Ffaith ddiddorol? Fi’n joio peint ond yn casáu Jagermeister!
Trefnydd Rhaglen – Owain Thomas
Hoff gêm yn noson sosial? Knight, Cavalier a Jockey
Peth gore am fod yn aelod o CFfI Felinfach? Cael cyfle i gystadlu mewn amryw gystadlaethau
Hoff gystadleuaeth Sir? Hanner Awr o Adloniant
Atgof sy’n gwneud ti’n falch o fod yn Ffarmwr Ifanc? Ennill actor gorau dan 16 yn yr Hanner Awr o Adloniant
Ffaith ddiddorol? Fi’n yfed rhwng 3-6 peint o laeth bob dydd
Gohebydd y Wasg – Alaw Fflur Jones
Hoff gêm yn noson sosial? Mae’r arweinydd yn dweud…
Peth gore am fod yn aelod o CFfI Felinfach? Creu ffrindie oes a derbyn y profiade gore!
Hoff gystadleuaeth Sir? Eisteddfod Sir
Atgof sy’n gwneud ti’n falch o fod yn Ffarmwr Ifanc? Aelod Iau y Flwyddyn CFfI Ceredigion, Cymru ac FfCCFfI
Ffaith ddiddorol? Dwi wedi gwersylla gyda llewod yn y saffari… a dwi dal yn fyw!
Gohebydd y Wasg – Sion Wyn Evans
Hoff gêm yn noson sosial? Wheelbender
Peth gore am fod yn aelod o CFfI Felinfach? Cael cystadlu mewn amryw o wahanol gystadlaethau a gwneud ffrindiau newydd
Hoff gystadleuaeth Sir? Rali
Atgof sy’n gwneud ti’n falch o fod yn Ffarmwr Ifanc? Mynd ar daith hwylio dan adain rhaglen ryngwladol CFfI Cymru yn ystod yr haf
Ffaith ddiddorol? Weles i Gemma Collins yn Eisteddfod Tregaron
CFfI Felinfach yn dechrau nol!
Wyt ti rhwng 10-28 oed ac yn ffansio cwrdd â ffrindie newydd? Dysgu sgiliau newydd? Mynd ar dripiau? Chwarae chwaraeon? Gweithio fel tîm? A cael lot o chwerthin a sbort!
Wel dere i ymuno â CFfI Felinfach nos Lun nesa, 12 Medi am 7:30 yn Neuadd Felinfach.
Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd!
Ishe gwybod mwy?
Am fwy o wybodaeth, paid ag oedi â chysylltu gyda Mared Jones ar 07527618253.