Bendithio Mynwent Newydd Eglwys Llanwyddalis Dihewyd

Pen llanw gwaith caled aelodau’r Eglwys!

Manon Wright
gan Manon Wright
5D431430-9BA2-477B-82CA-D19F7E6BEEDC

Bendithiwyd mynwent newydd Eglwys Llanwyddalis Dihewyd yn ystod gwasanaeth arbennig gan Ficer Wyn Maskell ddydd Sul yr 11eg o Fedi 2022.

Diolch i’r holl aelodau sydd wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn tacluso a pharatoi’r fynwent newydd.

Yn ogystal â hyn, mae gan yr Eglwys fan penodedig i barcio – hen ddigon o le i bawb barcio ar y Sul! Dewch yn llu i ymuno â ni!