Baglan 17 – 70 Aberaeron

Dechrau da i gystadleuaeth y cwpan

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
FB_IMG_1663770996191

Parc Drefach, Aberaeron

Yn wahanol i’r arfer, mae’r timau wedi cael eu rhoi mewn grwpiau o bedwar eleni, cyn mynd ymlaen at gymalau’r knockout yng Nghystadleuaeth Cwpan Rygbi Cymru yn adran 3.

Mae Aberaeron mewn grŵp sy’n cynnwys Baglan, Bettws a Swansea Uplands. I lawr i Faglan bu rhaid teithio’r Sadwrn diwetha`.

Am nad oedd Baglan yn medru cynnwys dau brop profiadol bu rhaid iddynt chwarae gyda 14 chwaraewr yn unig a bu’n rhaid chwarae’r gêm heb wthio yn y scrymiau.

Er hynny, cael a chael oedd hi yn yr hanner cyntaf yn erbyn y gwynt, gydag Aberaeron yn gwneud llu o gamgymeriadau.  17 – 22 oedd y sgôr ar hanner amser.

Bu’r ail hanner yn stori wahanol gyda’r ymwelwyr yn gwneud y gorau o’u un dyn ychwanegol gan sgorio chwe chais.

Cafwyd ceisiau gan Tudur Jenkins (yr un hŷn), Gareth James, Dyfrig Dafis, Richard Francis, Morgan Llewelyn (2) a Tudur Jenkins (yr un iau) (3). Cyfrannodd Rhodri Jenkins 25 o bwyntiau trwy gicio wyth trosiad a thair cic gosb.

Talacharn

Yn ôl at y gynghrair bydd hi’r Sadwrn nesa’ gan ymweld â Thalacharn. Disgwylir gêm tipyn caletach i lawr yng ngodre Sîr Gar.