Siom i Aberaeron yn Nhalacharn

Y Gwylanod yn colli’n ddramatig yn Nyffryn Tâf

gan Arwyn Davies
Bachwr Aberaeron, Sion Evans yn taflu at Hefin Williams, wrth i gapten Talacharn Tomas Rees gystadlu

Talacharn 31 – Aberaeron24

Wedi sgorio 179 o bwyntiau yn y dair gêm flaenorol, ’roedd Aberaeron yn disgwyl gêm anoddach bant yn Nhalacharn heddiw (Sadwrn, 24 Medi), a dyna fel brofodd hi hefyd. Gydag Aberaeron ar y blaen o 10 i 0 ar ôl 3 munud, a 24 i 10 gyda 10 munud yn weddill o’r gêm, ’roedd y tîm a’r cefnogwyr wedi meddwl y byddai’r dechrau cryf i’r tymor yn parhau yn Nyffryn Tâf.

Mewn gwirionedd, bu Aberaeron o dan gryn dipyn o bwysau am ran helaeth o’r gêm yn dilyn y munudau agoriadol pan oedd sgôr mawr arall yn edrych yn bosib. Yr ifanc wnaeth arwain y ffordd ar ddechrau’r gêm, wrth i’r blaenasgellwr Hefin Williams fanteisio ar gamgymeriad gan olwyr y tîm cartref gan ryddhau Gethin Jenkins ac yna Morgan Llywelyn cyn iddo basio’r bêl i’w frawd wnaeth guro cwpwl o amddiffynwyr wrth frasgamu 40 metr at y llinell.

Er i Rhodri Jenkins ychwanegu triphwynt arall yn fuan wedi hynny i roi Aberaeron 10 pwynt ar y blaen, yn fuan daeth y tîm cartref yn gyfartal wrth i’w blaenwyr mawr ddechrau dominyddu pac Aberaeron yn y darnau gosod ac yn y sgarmesoedd rhydd. Cais, trosiad a chic gosb yn dilyn cyfnod o bwysau gan y gleision golau.

Fe wnaeth camgymeriadau gan y ddau dîm am weddill yr hanner yn eu hatal rhag ychwanegu at eu sgôr, ond gydag olwyr Aberaeron yn byw ar friwsion o feddiant, fe ddangoson nhw pa mor beryglus oedden nhw cyn yr hanner wrth i Rhodri Jenkins gyfuno â’i olwyr eto wrth fanteisio ar gamgymeriad arall gan Dalacharn.  Wrth i’r ymosodiad ddod i ben yn agos i linell cais y tîm cartref, plymiodd wythwr pwerus a hyfforddwr Aberaeron, Ryan Williams drosodd yn llydan, ac ychwanegodd Rhodri Jenkins ddau bwynt yn gelfydd.

 

Cefndryd ‘Talgrwn’ – y ddau frawd, Dafydd a Morgan Llywelyn bob ochr i Tudur Jenkins – y tri yn olwyr i Aberaeron.

Aberaeron ar y blaen ar yr hanner

Amddiffyn y sgôr o 17-10 oedd y dasg am y rhan gyntaf o’r ail hanner wrth i’r tîm cyfan weithio’n galed i wrthsefyll pac cryf ac ymosodiadau grymus Talacharn. Hanner ffordd drwy’r ail hanner, arweiniodd taclo pwerus gan Aberaeron, yn agos i’w llinell eu hunain, at droi’r bêl drosodd, a’r olwyr yn gwrth-ymosod yn wych lan y cae drwy sawl pâr o ddwylo cyn i’r ail reng Bobby Jones ymddangos ar ddiwedd y symudiad i groesi wrth ymyl y postion am gais gorau’r gêm , a Rhodri Jenkins eto’n trosi i wneud y sgôr yn 24-10 i’r ymwelwyr.

Cefnderwyr – y ddau frawd, Dafydd a Morgan Llywelyn bob ochr i’e cefnder Tudur Jenkins – y tri yn olwyr i Aberaeron heddi’

Diweddglo dadleuol

Er i Aberaeron fwynhau mantais o 14 o bwyntiau gyda 10 munud o’r gêm yn weddill, buont o dan bwysau cynyddol yn ystod cyfnod ola’r gêm. Yn wir torcalon oedd hi i Aberaeron wrth iddyn nhw ildio tri chais hwyr –  dau ohonyn nhw yn rhai fydd yn cael eu trafod yn hwyr i’r nos yn y clwb yn Nhalacharn ac Aberaeron.

Fe ddaeth bachwr Talacharn â’i dîm ’nôl o fewn un sgôr wedi symudiad clyfar ar flaen y lein a throsiad arbennig gan y maswr, ond wrth i’r gêm gyrraedd yr amser wedi ei ychwanegu am anafiadau, fe ddaeth y ceisiau tyngedfennol a dadleuol.

Fe ddaeth y cynta’ wedi i fewnwr daflu pas oedd i’w weld ymlaen gyda’r dyfarnwr wedi troi ei gefn, a hynny’n arwain at y canolwr yn tirio yn agos at y pyst. A wedyn fe waethygodd y sefyllfa i Aberaeron.

Yn fuan wedi’r ail ddechrau, wnaeth maswr Talacharn glirio’r bêl tuag at yr ystlys. Bu bron i gefnwr a chapten Aberaeron, Morgan Llywelyn ddal y bêl yn wych, ond wrth gael ei herio, fe ddaeth y bêl yn rhydd. Fe gododd llimanwr Talacharn ei liman i ddynodi fod y bêl wedi croesi’r llinell, ond wrth i’r bêl adlamu i gôl eilydd Talacharn, fe newidiodd ei feddwl. Wrth i Dalacharn groesi am gais, fe dderbyniodd y dyfarnwr esboniad y llimanwr mai mewn camgymeriad y cododd ei liman yn y lle cynta’ (gan achosi i chwaraewyr Aberaeron i stopio).

Dim lwc yn y diwedd i Aberaeron heddi, ond mae’r tymor yn hir, a fe ddaw cyfle eto i wella ar rai agweddau o’r chwarae a mynd am fwy o fuddugoliaethau. Daw’r cyfle cynta’ mewn gêm anodd eto oddi cartref wythnos nesa yn Hwlffordd.