Iaith ar waith

Ysgol Gyfun Aberaeron

Anwen Eleri Bowen
gan Anwen Eleri Bowen

Un o brosiectau diweddaraf Siarter Iaith Ceredigion yw’r prosiect ‘Tips Gramadegol’. Er fod y gwaith ar waith ers sawl mis; mae ffrwyth llafur y criw ar gael i’w gweld erbyn hyn.

Bwriad y cynllun ‘Tips Gramadegol’ oedd i greu fideo i ddrilio sgil ieithyddol, gyda’r nod i wella sgiliau ysgrifennu disgyblion.

Mi aeth yr ysgolion ati i feddwl a dewis sgil yr oeddent am rannu ag eraill, meddwl am gân neu roedd croeso iddynt fynd ati i gyfansoddi, bwrw ati i greu geiriau ac yna meddwl am gynnwys i’w fideo.

Diolch i Sam Ebenezer am gynnal gweithdy creu gyda’r ysgolion ac yna am ei amser a’i ymynedd tra yn recordio y lleisiau, ffilmio a’r golygu.

Cyfle a phrofiad arbennig i bawb – cafwyd tipyn o hwyl wrth greu!

Mae 4 fideo hyd yma yn ran o’r rhestr chwarae. Dyma fideo Ysgol Gyfun Aberaeron. Diolch i’r disgyblion a’r staff am eu gwaith.

Gobeithio wnewch chi fwynhau a phwy a wyr efallai ddysgwch chi rhywbeth hefyd!