Yn ôl y disgwyl, cafwyd gêm anodd i lawr yn Hwlffordd dydd Sadwrn. Bu rhaid i’r ymwelwyr amddiffyn yn erbyn pac pwerus Hwlffordd am ran helaeth o’r gêm
Wedi i Rhodri Jenkins daro’r postyn gyda chic gosb i Aberaeron yn y munudau cyntaf bu’r tîm cartref yn pwyso ar lein Aberaeron am hydoedd cyn i’r amddiffyn ildio yn y diwedd wedi nifer o giciau cosb yn eu herbyn yn y sgrymiau. Sgoriwyd cais i Hwlffordd ond methwyd gyda’r trosiad.
O’r ailddechrau gwnaeth Aberaeron y gorau o’r gic gan droi’r bêl drosodd. Daeth y bêl i ddwylo’r canolwr ifanc, Gethin Jenkins cyn iddo dorri trwy dacl a rhedeg ugain metr cyn maeddu amddiffynnwr arall a sgorio cais arbennig. Troswyd y cais gan Rhodri Jenkins i roi Aberaeron ar y blaen 5-7.
Daeth y tîm cartref yn ôl i roi rhagor o bwysau ar lein Aberaeron. Y canlyniad yn y diwedd wedi sawl trosedd yn y sgrymiau oedd cais gosb i Hwlffordd.
Bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda chic gosb gan adael y sgôr ar hanner amser yn 12-10.
Amddiffyn arwrol
Tebyg iawn i’r cyntaf oedd hanes yr ail hanner gydag Aberaeron yn ei chael hi’n anodd dygymod â phac grymus y tîm cartref. Ar y llaw arall, ’roedd Hwlffordd yn ei chael hi’n anodd delio â chyflymder olwyr Aberaeron.
Ni fu unrhyw sgôr tan y chwarter awr olaf pan wnaeth yr ymwelwyr ennill cig gosb yn dilyn rhediad cryf arall i mewn i dir y gwrthwynebwyr. Bu’r gic gan Rhodri Jenkins yn llwyddiannus. Gydag Aberaeron ar y blaen o un pwynt ’roedd rhaid canolbwyntio ar yr amddiffyn. Hynny a wnaed gan bob aelod o’r tîm. Er y pwysau cyson gan Hwlffordd mi wnaeth Aberaeron droi’r bêl drosodd ar sawl achlysur gan godi cwestiynau o amddiffyn y tîm cartref. Gyda dim ond ychydig o funudau i fynd mi wnaeth Hwlffordd droseddu ar y llinell hanner, tua phymtheg metr i mewn o’r ystlys – cic gosb i Aberaeron. Penderfynwyd mynd am y pyst, er bod hon yn anferth o gic. Er syndod i bawb, bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda’r gic i osod y sgôr yn 12 – 16. Chwythwyd i derfynu’r gêm yn weddol gloi wedi ail ddechrau chwarae.
Llongyfarchiadau i bob aelod o dîm Aberaeron am eu hymroddiad yn enwedig i Siôn Evans, Richard Francis a’r hanerwr ifanc Steffan ‘Bwtch’ Jones. Cafwyd perfformiad arbennig yn amddiffynnol ac o’r droed gan Rhodri Jenkins.
Sgorwyr: Cais i Gethin Jenkins a thair cic gosb a throsiad i Rhodri Jenkins.
‘Roedd hi’n dipyn o gamp i ddod adref o Hwlffordd gyda buddugoliaeth. Diolch i nifer dda o gefnogwyr y Gwylanod wnaeth deithio i lawr i’w cefnogi. Edrychwn ymlaen at groesawu Aberteifi i Barc Drefach dydd Sadwrn nesaf.