Eisteddfod lwyddianus ym mhentref Felinfach

Eisteddfod wledig ar ei ore

gan Wyn Maskell
FB_IMG_1666078005365

Seremoni Cadeirio Eisteddfod Felinfach 2022

Ar brynhawn a nos Wener, 30ain o Fedi, fe gynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Felinfach. Yn yr adran gyfyngedig welsom ddisgyblion Ysgol Gynradd Felinfach yn cystadlu. Braf oedd gweld teuluoedd y plant yn bresennol yn y prynhawn. Diolch i Iris Hawkins, Ciliau Aeron am feirniadu adran gerdd ac i Mair Jones, Aberaeron am feirniadu’r adran llefaru. Jonathan Morgan oedd cyfeilydd swyddogol yr Eisteddfod.

Gyda’r hwyr, mi oedd Siw Jones, Felinfach yn beirniadu yn yr adran gerdd a Beryl Vaughan yn yr adran lefaru. Dafydd Jones, Ciliau Aeron oedd yng nghofal adran cerdd dant ac alaw werin. Nerys Jones, Felinfach oedd llywydd y dydd a diolch iddi am ei rhodd garedig ac am fod yn bresennol trwy gydol yr Eisteddfod.

Roedd y safon yn uchel, ac yn ôl y beirniad mi oedd hi yn dipyn o dasg ar adegau i ddewis y cyntaf, ail a thrydydd.

Enillydd y gadair eleni oedd Mr Emrys Williams, Abergele. Mi oedd y beirniad wedi cael ei phlesio gan y 24 a wnaeth gystadlu am y gadair. Pleser oedd cyflwyno cadair a rhoddwyd gan Gwyndaf a Helen Davies, Temple Bar.

Mi oedd cael steddfod unwaith eto yn deimlad o falchder ac yn dod a’r gymuned ynghyd i brofi talent sydd gyda ni yng Nghymru. Edrychwn ymlaen am Steddfod 2023.