Dwy fuddugoliaeth ar Barc Drefach

Curo Aberteifi a Betws

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
IMG_20221008_160758

Y ddau frawd, Steffan a Rhys “Bwtch” Jones wnaeth chwarae yn y ddwy gêm.

Aberaeron 36 – 20 Aberteifi

Chwaraeodd Aberaeron eu gêm gystadleuol gyntaf y tymor ar Barc Drefach ar ddydd Sadwrn 8fed Hydref. Aberteifi oedd y gwrthwynebwyr o flaen torf gref o gefnogwyr. Yn ôl y disgwyl bu’n ornest galed gydag Aberteifi ar y blaen 10-13 ar hanner amser.

Mi wnaeth chwaraewyr Aberaeron godi eu gêm yn yr ail hanner gyda pherfformiad arbennig. Sgoriwyd ceisiai gan Bobby Jones (3), Morgan a Dafydd Llewelyn. Ciciodd Rhodri Jenkins bedair trosiad ag un gic gosb.

Mi wnaeth Aberteifi gael cais gosb yn agos at ddiwedd y gêm.

Aberaeron 36 – 5 Betws

Yn ôl i gystadleuaeth y cwpan oedd hi’r Sadwrn diwethaf gan groesawu Betws yn ôl i Barc Drefach wedi nifer o flynyddoedd ers eu hymweliad diwethaf.

Tebyg iawn i’r Sadwrn blaenorol oedd hi yn yr hanner cyntaf gyda Betws yn profi i fod yn wrthwynebwyr cryf. 7 – 5 oedd y sgôr ar hanner amser wedi Dafydd Davies sgorio dros Aberaeron a throsiad gan Rhodri Jenkins.

Wedi newid rhai chwaraewyr yn gynnar yn yr ail hanner mi wnaeth y tîm cartref ddangos eu gallu gan sgorio pum cais. Dwy gais yr un i Ifan Davies a Morgan Llewelyn a chais i Gethin Jenkins. Braf oedd gweld yr ieuenctid yn cyfuno’n dda gyda’r chwaraewyr mwy profiadol a rhoi gwledd o rygbi i’r dorf niferus. Rhaid nodi perfformiadau cryf gan Ryan Williams a Bobby Jones; y ddau yn cario’n gryf ag yn ennill tir yn rheolaidd. Eto, bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda thair trosiad er gwaetha’r gwynt cryf ar adegau.