Datgelu dyfodol Addysg Dyffryn Aeron

Cyngor Sir Ceredigion yn rhannu cynlluniau ysgol newydd

gan Janice Thomas
310491639_648844533278937

Rhieni’r dyffryn yn astudio’r cynlluniau

Ar ddydd Mawrth, 4ydd o Hydref cynhaliwyd sesiwn galw i mewn yn y Gwndwn (Theatr Felinfach) i rannu cynlluniau ysgol arfaethedig newydd i Ddyffryn Aeron.

Ar ôl dros pymtheg mlynedd o drafod, mae’r cynlluniau ar gyfer ysgol newydd i Ddyffryn Aeron wedi cael eu harddangos am y tro cyntaf gan Cyngor Sir Ceredigion.  Bydd yr ysgol yn uno Ysgolion cynradd Ciliau Parc, Felinfach a Dihewyd ac yn darparu addysg i blant 3-11 oed yn ogystal ag uned meithrin i’r Dyffryn.

Lleolir y safle ar gyfer yr ysgol newydd wrth ymyl Cae Pêl Droed Felinfach a bydd yn cynnwys adeilad pwrpasol ar gyfer oddeutu 220 o blant, uned meithrin, cae chwarae ‘pob tywydd’ a maes parcio.

Yn ôl un o swyddogion y Cyngor, roeddent wedi derbyn llif cyson o ymwelwyr trwy’r dydd ac roedd yn amlwg o ddiddordeb mawr i rieni a’r gymuned gyfan. Disgwylir i’r gwaith ar y safle gychwyn yn y gwanwyn gyda’r gobaith y bydd yr ysgol newydd ar agor i’r disgyblion cyntaf ym mis Medi 2024.

Yn ogystal â’r cynlluniau i’r ysgol, roedd yn ddiddorol gweld cynllun arfaethedig ar gyfer Theatr newydd.  Er nad yw symud y theatr yn rhan o’r datblygiad ar hyn o bryd, mae swyddogion y cyngor yn edrych ar grantiau a fydd, o bosib, yn galluogi’r datblygiad hwn i fynd yn ei flaen yn dilyn agoriad yr ysgol.

Mae’n gyfnod cyffrous i addysg a’r celfydyddau yn Nyffryn Aeron.