Noson o Ganu i ddathlu Cymru a Chwpan y Byd

Lawr yn y Vale

Nia Llywelyn
gan Nia Llywelyn

Grwp Dysgwyr yn paratoi at Cwpan y Byd

Aeth grwp o ddysgwyr o bwtcamp Say Something in Welsh i’r Vale i ganu gyda phobol leol.

Roedd Cered yn lansio llyfryn gyda chaneuon Cymraeg, cyfieithiadau a disgrifiad ffonetig.

“Syniad dda,” ddwedodd Ciara, “bydd y llyfryn yn helpu fi i ddysgu mwy o ganeuon Cymraeg”

“Fwynheues i yr awyrgylch cartrefol a chwrw da iawn,” meddai Paul sy’n un o aelodau côr Cwmann.

Roedd y llyfryn wedi cael ei baratoi gan y Mentrau Iaith ar gyfer dathlu Cymru’n cymryd rhan yng Nghwpan y Byd yn Qatar.  Roedd pawb wedi mwynhau llawer yng nghwmni Steff Rees o Menter iaith Ceredigon, sef Cered.