Rhai o awduron gorau Cymru yn Aberaeron!

Gŵyl Lyfrau Aberaeron nôl penwythnos yma.

gan Mair Jones

Ar ôl cyfnod o ddwy flynedd, mae Gŵyl Lyfrau Aberaeron nôl.

Nos Wener, bydd noson ‘Barddoniaeth a Cherddoriaeth’ yn y Llew Du i ddechrau am 7.30.

Dydd Sadwrn bydd gweithgareddau yn cychwyn yn y Neuadd Goffa am 10.30 gyda Manon Steffan Ros a Caryl Lewis ymysg yr awduron a fydd yn trafod a ddarllen eu gwaith. Bydd y gweithgareddau yn parhau dydd Sul.

Beth am alw mewn? Mae rhywbeth ’ma i bawb.

Mae’r cyfan am ddim ac wedi ei drefnu gan siop Lyfrau Gwisgo Bookworm yn Aberaeron.