CogUrdd

CogUrdd 2022 Ysgol Ciliau Parc

Plant Ysgol Ciliau Parc
gan Plant Ysgol Ciliau Parc
MicrosoftTeams-image-12

Dylan yn coginio yn y rownd nesaf.

Ar ddydd Gwener y 14eg o Hydref, bu cystadleuaeth CogUrdd yn Ysgol Ciliau Parc. Blwyddyn 4, 5 a 6 oedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn cyrraedd y rownd nesaf. Penderfynodd y beirniad Mary Edkins mai Dylan oedd yn fuddugol. Yn ail, roedd Tomos ac yn gydradd drydydd oedd Gwenno a Cerys.
Roedd 14 yn cystadlu i gyd, ond brechdan eog a chiwcymbr a chyw iâr y coroni daeth i’r brig.
Dros y penwythnos aeth Dylan i’r rownd nesaf yn Ysgol Bro Teifi i gystadlu yn erbyn disgyblion eraill sir Ceredigion.