Bingo Ysgol Gynradd Dihewyd

Pwyllgor Rhieni ac Athrawon yn cynnal bingo.

Plant Ysgol Dihewyd
gan Plant Ysgol Dihewyd

Cafwyd noson dda mewn Bingo yn ddiweddar. Cynhaliwyd y Bingo yn Neuadd Bentref Dihewyd ar y 29ain o Fedi.  Roedd yn wych gweld y neuadd yn llawn o rieni, ffrindiau ac aelodau’r gymuned. Roedd yn noson hwyliog iawn.

Diolch i bwyllgor Rhieni ac Athrawon yr ysgol am drefnu’r noson. Yn ogystal diolch i bawb a noddodd y gwobrau a chyfranodd at y raffl.