Bore Coffi MacMillan

Codi arian i elusen MacMilla 

Plant Ysgol Dihewyd
gan Plant Ysgol Dihewyd
3240DF1E-84FA-4B80-BE47

Ar fore Mawrth y 27ain o Fedi cynhaliwyd bore coffi yn yr ysgol er mwyn codi arian tuag at elusen MacMillan.

Bu nifer o bobl yn brysur iawn yn coginio cacennau tu hwnt o flasus! Diolch i bawb a gyfrannodd gacennau, gwobrau raffl a hefyd am eich rhoddion hael tuag at achos da! Llwyddwyd i gasglu £523 tuag at yr elusen.

Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a ddaeth i’n helpu gyda’r bore coffi, ac i bawb a fynychodd. Roedd yn fendigedig cael croesawu rhieni a ffrindiau’r ysgol atom unwaith eto.