Dathlu Diwrnod T Llew Jones!

Ysgolion Dyffryn Aeron yn dathlu yn Theatr Felinfach.

Plant Ysgol Dihewyd
gan Plant Ysgol Dihewyd

Ar ddydd Mawrth yr 11eg o Hydref fe ddaeth Ysgolion Dyffryn Aeron at ei gilydd er mwyn dathlu diwrnod T Llew Jones yn Theatr Felinfach.

Cafwyd diwrnod bendigedig yn creu ffrindiau a dysgu llawer o sgiliau newydd. Bûm yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dawnsio, barddoniaeth, llais a drama gyda chymorth Dwynwen Llywelyn, Sioned Hâf a Ceri Murphey.

Dysgom lawer am un o enwogion mwyaf Cymru, T Llew Jones. Diolch i’w wyres Nia Llywelyn am ddod i rannu hanes, ffeithiau ac atgofion hyfryd gyda ni!

Edrychwn ymlaen at gael y tair ysgol i uno unwaith eto yn y dyfodol agos, gobeithio!