Sbri-Diri!

Disgyblion Ysgol Gynradd Dihewyd

Plant Ysgol Dihewyd
gan Plant Ysgol Dihewyd
F02A25D9-D161-4C9E-A2C7

Ar ddydd Gwener y 7fed o Hydref aeth disgyblion Ysgol Gynradd Dihewyd i ddigwyddiad arbennig! Cynhaliwyd Sbri-Diri yr Urdd yn Ysgol Gyfun Aberaeron. Roedd Siani Sionc yn arwain ar y canu, gyda chymorth wrth Mr Urdd! Roedd yn fore gwych, a chawsom lawer o hwyl yn canu a dawnsio gyda Mr Urdd! Roedd nifer o ysgolion eraill hefyd wedi ymuno yn yr hwyl! Diolch i swyddogion yr Urdd am drefnu’r digwyddiad ar gyfer plant cylch Aeron.