Aberaeron yn ennill yn Llanybydder

13 – 42

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
IMG_20221022_155648

Y sgorfwrdd ar Barc OJ, Llanybydder ar ddiwedd y gêm.

Wedi’r COFID, mae’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon wedi gostwng. Dyna fu hanes Llanybydder ddydd Sadwrn diwethaf. Fe wnaethant eu cael hi’n anodd codi tîm ar gyfer y darbi yn erbyn Aberaeron ar Barc OJ.

Er hynny, aeth y gêm yn ei blaen gyda’r tîm cartref yn dechrau’n gryf. Ciciodd Llyr Tobias gic gosb i Lanybydder yn gynnar yn y gêm. Bu nifer o newidiadau i dîm Aberaeron ers eu buddugoliaeth yn erbyn Betws y Sadwrn cynt ac fe gymerodd ychydig o amser cyn iddynt setlo. Wedi tipyn o bwyso  dyfarnwyd cais gosb i Aberaeron. Gwnaeth hyn godi calonnau’r ymwelwyr ac fe sgoriwyd ceisiai gan Dafydd Davies, Gethin Jenkins a Dyfrig Dafis cyn hanner amser. Trosiwyd y dair cais gan Rhodri Jenkins. Sgoriwyd cais i Lanybydder gan Llyr Davies ac ar hanner amser roedd y sgôr yn 8 – 28.

Dechreuodd Llanybydder yr ail hanner yn gryf gan bwyso’n drwm ar lein Aberaeron ond yn methu torri trwyddo. Wedi clirio’i lein fe dorrodd yr ymwelwyr yn glir gyda Dyfrig Dafis yn croesi am ei ail gais a throsiad gan Rhodri Jenkins. Gwnaeth Llanybydder ymateb gyda chais arall i Llyr Davies. Gyda`r gêm wedi ei hennill gwnaeth Aberaeron lawer o newidiadau ag eto, Bobby Jones wnaeth ddisgleirio. Rhedodd yn gryf cyn pasio i Gethin Jenkins i groesi am ei ail gais a chweched cais Aberaeron am y prynhawn. Bu Rhodri Thomas yn llwyddiannus gyda’r trosiad.

Swansea Uplands bydd yn ymweld â Pharc Drefach dydd Sadwrn yma. Hon bydd yr olaf o’r gemau grŵp yng nghystaldeuaeth Cwpan Undeb Rygbi Cymru, Adran 3.