Aberaeron allan o’r cwpan

Colli mewn gêm agos

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Nid y canlyniad â ddisgwylid!

Wedi i’r ddau dîm ennill eu dwy gêm flaenorol yng nghystadleuaeth y cwpan roedd y gêm hon yn dyngedfennol.

Dechreuodd Swansea Uplands yn gryf a chadw pwysau ar Aberaeron am amser hir. Gydag amddiffyn dewr y tîm cartref yn eu rhwystro rhag torri trwodd fe aeth Aberaeron ar y blaen yn annisgwyl. Gyda’r ymwelwyr yn lledu’r bêl yn ddwfn yn hanner Aberaeron mi wnaeth Rhodri Thomas rhyng-gipio’r bêl  a rhedeg bron hyd y cae i sgorio dan y pyst. Troswyd y cais gan Rhodri Jenkins.

Dyna’r tro cyntaf i Aberaeron fod yn hanner eu gwrthwynebwyr, ond wedi sgorio’r cais mi wnaethant godi eu gêm a rhoi tipyn o bwysau ar eu gwrthwynebwyr. Amddiffyn oedd yn ennill y dydd gydag Aberaeron yn methu torri trwodd. Bu’r chwarae, fwy neu lai o fewn y ddwy linell 22 am weddill y gêm. Gydag Aberaeron wedi gorfod newid sawl chwaraewr yn y pac ar gyfer y gêm bu’r pwysau yn ormod ac mi wnaethant ildio dwy gic cosb cyn hanner amser.

7 – 6 ar hanner amser

Tebyg i’r cyntaf bu’r ail hanner gydag amddiffyn y ddau dîm yn drech na’r ymosod. Sgoriodd y ddau dîm cic gosb yr un gan roi’r sgôr yn 10 – 9. Gyda thua deng munud i fynd mi aeth yr ymwelwyr ar y blaen drwy gic gosb arall. Er brwydro’n ddewr, methiant fu ymdrech Aberaeron i ennill y gêm.

Rhaid canmol ymdrech amddiffynnol y ddau dîm a wnaeth fwy neu lai canslo’i gilydd allan. Mi all y canlyniad fod wedi mynd unrhyw ffordd.

Pob lwc i Swansea Uplands yn eu rhediad yn y cwpan.

Llangwm adref 

Ni fydd gêm gan Aberaeron y Sadwrn nesaf ond byddant yn croesawu Llangwm i barc Drefach ar 12 Tachwedd.