Diwrnod Lles Dihewyd

Gweithgareddau lles yn Ysgol Dihewyd!

Plant Ysgol Dihewyd
gan Plant Ysgol Dihewyd
ficer-wyn

Ficer Wyn yn cyflwyno pennill.

cebab-

Bwyta cebab ffrwythau

crefft

Crefftau Lles

Ar ddydd Iau, y seithfed ar hugain o Hydref, cynhaliodd Ysgol Dihewyd ddiwrnod lles. Daeth pawb i’r ysgol yn eu dillad eu hunain. Yn y bore, fe ddaeth Ficer Wyn i ddarllen pennill o’r hen ganeuon. Fe wnaeth y dosbarth bach ‘yoga’ a chreu cebab ffrwythau gydag iogwrt mefus i bawb. Fe wnaeth y dosbarth mawr dynnu lluniau o deimladau, ac yna aeth yr ysgol gyfan i’r pwll nofio yn Aberaeon.