Eisteddfod Ysgol Ciliau Parc

Mentro nôl i’r llwyfan ar ôl 3 blynedd!

Ffion Evans
gan Ffion Evans
Eisteddfod 1

Plant Dosbarth Derbyn

Eisteddfod 2

Blwyddyn 1 a 2 yn cymryd mwynhau derbyn cymeradwyaeth o’r gynulleidfa!

Eisteddfod 3

Buddugwyr Llawysgrifen Blwyddyn 1 a 2

Eisteddfod 4

Côr Aeron

Eisteddfod 5

Plant Blwyddyn 6 Côr Aeron yn hapus gyda’r fuddugoliaeth!

Eisteddfod 6

Da iawn Côr Aeron.

Calan Gaeaf

Dosbarth Glynaeron yn y Parti Calan Gaeaf.

Calan Gaeaf 2

Dosbarth Gwalia yn y Parti Calan Gaeaf.

Calan Gaeaf

Blwyddyn 1 yn y Parti Calan Gaeaf.

Calan Gaeaf 3

Blwyddyn 2 yn y Parti Calan Gaeaf.

Calan Gaeaf 4

Dosbarth Derbyn yn y Parti Calan Gaeaf.

Braf iawn oedd gallu cynnal Eisteddfod Ysgol Ciliau Parc eleni ar ôl 3 blynedd hebddi oherwydd Covid.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn Neuadd Bentref Ciliau Aeron ar ddydd Iau, Hydref y 27ain, gyda’r plant ifancaf yn cystadlu yn y bore a’r plant hŷn yn y prynhawn.

Ein beirniaid llefaru a gwaith cartref oedd Mair Jones, Aberaeron a Ficer Wyn Maskell oedd y beirniad Cerdd. Ein cyfeilydd oedd Lois Williams. Diolchwn yn fawr i’r 3 am eu gwaith yn ystod y diwrnod.

Canlyniadau

Canu

  • Derbyn – 1af Cadi-Alys, 2il Madog, 3ydd Fflur.
  • Bl1 a 2 – 1af Anest, 2il Guto, 3ydd Hari a Bleddyn.
  • Bl3 a 4 – 1af Myfi, 2il Emma a Cerys, 3ydd Meian.
  • Bl5 a 6 – 1af Gwenllïan, 2il Lea, 3ydd Lucy, Ioan a Lili-Wen.

Llefaru

  • Derbyn – 1af Fflur, 2il Cadi-Alys, 3ydd Malia.
  • Bl1 a 2 – 1af Anest, 2il Guto a Bleddyn, 3ydd Alex.
  • Bl3 a 4 – 1af Myfi, 2il Angharad a Meian, 3ydd Ozzy.
  • Bl5 a 6 – 1af Lucy, 2il Lea ac Ioan, 3ydd Gwenllïan a Lili-Wen.

Llawysgrifen

  • Derbyn – 1af Benjamin, 2il Fflur, 3ydd Cadi-Alys.
  • Bl1 a 2 – 1af Anest, 2il Guto, 3ydd Arthur.
  • Bl3 a 4 – 1af Emma, 2il Meian, 3ydd Hana.
  • Bl5 a 6 – 1af Lucy, 2il Milly, 3ydd Thea.

Celf

  • Derbyn – 1af Fflur, 2il Cadi-Alys, 3ydd Siôn.
  • Bl1 a 2 – 1af Gwenno, 2il Anest, 3ydd Lily.
  • Bl3 a 4 – 1af Guto, 2il Annie, 3ydd Millie.
  • Bl5 a 6 – 1af Lea, 2il Milly, 3ydd Jac.

Côr

  • 1af Aeron
  • 2il Mydr
  • 3ydd Nantfaen

Llongyfarchiadau mawr i’r holl ddisgyblion am eu gwaith ac am fod yn ddigon dewr i fentro i’r llwyfan.

Trannoeth i’r Eisteddfod cafwyd Parti Calan Gaeaf i ddathlu ymdrech pawb. Roedd y plant a’r staff i gyd wedi gwisgo mewn dillad arswydus!