Mwy o atgofion Wyndham

Gwerthiant ‘tu hwnt i’r disgwyl’

Euros Lewis
gan Euros Lewis

Ronald Thomas yn cyflwyno copi gynta’r gyfrol i Wyndham.

Clawr y llyfr – ei elw’n gyflwynedig i Ambiwlans Awyr Cymru

Yr hen bedwarawd – Ronald, Terry, Wyndham a Tudor.

O fewn pedwar mis i’w gyhoeddi gyntaf mae llyfr am hanes Cribyn a’r cyffiniau wedi gorfod gael ei ail argraffu.

Cyhoeddwyd CRIBYN – BRO FY MEBYD yn ysgol y pentre nos Wener, 1 Gorffennaf eleni. Gwerthwyd dros 100 copi y noson fawr honno a rhyddhawyd y gweddill o’r 200 i’w gwerthu mewn siopau yn Felin-fach a Llambed. O fewn y mis roedd y cyfan wedi mynd ac roedd sôn fod yna brynwyr ar Facebook yn fodlon talu dipyn yn fwy na phris y clawr er mwyn ei feddiannu.

Mae Wyndham Jones, awdur y gyfrol, wedi’i synnu a’i ryfeddu gan y galw. ‘O’dd dim gwahaniaeth ble’r o’n i’n mynd – i Lambed neu Lanybydder, i’r mart neu i’r rasus – o’dd bobol yn gofyn yn daer am y llyfr, a finne’n gorfod eu siomi, dro ‘rôl tro’ meddai.

Ond dyw Delyth Davies, a fu’n helpu golygu’r gyfrol yn synnu dim. ‘Wrth i fi ddechrau helpu Wyndham i gael trefn ar bethe o’n i’n gwbod y bydde hi’n gwerthu’n dda. Mae’n gofnod mor dda o’r gymdogaeth gyfoethog hon fel yr oedd hi hanner can mlynedd a rhagor yn ôl – pentre mor fyrlymus â mwy na’i siâr o gymeriadau lliwgar. A ma’ nhw i gyd yma, yn y gyfrol’ meddai.

Ond er y llawenydd wrth ail-argraffu mae yna dristwch hefyd o glywed am farwolaeth ddiweddar Tudor Jones. Un o uchafbwyntiau’r noson gyhoeddi fis Gorffennaf oedd clywed y pedwar ffrind bore oes – Tudor, Wyndham, Terry a Ronald – yn morio canu’r hen ffefrynnau.  ‘Dwi mor falch’ medde Wyndham ‘…ei fod e wedi gallu bod gyda ni’r noson honno. Mor falch.’

CRIBYN – BRO FY MEBYD  –  Yr ail-argraffiad ar werth nawr yn Swyddfa’r Post, Felin-fach a Siop y Smotyn Du, Llambed. Cyhoeddiad Cymdeithas Clotas. Cyflwynir elw’r gwerthiant i gronfa Ambiwlans Awyr Cymru.