Ar ddydd Llun y 26ain o Fedi aeth blwyddyn 6 i Ysgol Gyfun Aberaeron. Pwrpas y trip oedd dysgu ieithoedd newydd ar Ddiwrnod Ieithoedd Ewropeaidd. Dysgon ni sawl iaith newydd, gan gynnwys Sbaeneg, Almaeneg, Swedeg a Ffrangeg. Dysgon ni sut i rifo yn Sbaeneg, i enwi anifeiliaid yn Almaeneg, enwi lliwiau yn Swedeg ac yn olaf dysgon ni enwau gwledydd yn Ffrangeg.
Roedden hefyd yn lwcus iawn i gael blasu bwydydd gwahanol, er enghraifft pitsa oer blasus, olewydd, pan au chocolat, gwahanol fathau o gaws a llawer mwy.
Yna gwrandawon ni ar ganeuon Eurovision ac roedd angen dyfalu ym mha iaith oedd y gân.
Ar ran blwyddyn 6 Ysgol Ciliau Parc, hoffwn ddiolch i staff a disgyblion Ysgol Gyfun Aberaeron am ddiwrnod arbennig.
Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Josh, Lucie, Milly a Thea, blwyddyn 5 a 6 Ysgol Ciliau Parc.