Yn mis Medi 2022 dechreuodd Mr Derbyshire ei swydd newydd yn Ysgol Ciliau Parc. Erbyn hyn mae Mr Derbyshire 10 wythnos i mewn i’w swydd yn dysgu dosbarth Gwalia, sef dosbarth blwyddyn 3 a 4.
Fel disgyblion yn Ysgol Ciliau Parc rydym yn fusneslyd iawn ac ar bigau’r drain eisiau dod i adnabod ein hathro newydd, felly holon ni rai cwestiynau iddo.
Lili-Wen: Croeso i Ysgol Ciliau Parc, ond dwi yma i ofyn y cwestiynau pwysig. I ble wyt ti’n hoffi teithio?
Mr Derbyshire: Wel, dwi’n hoff iawn o deithio i draeth Mwnt.
Gwenno: Beth yw dy hoff fwyd?
Mr Derbyshire: Bydd rhaid i mi ddewis pryd 3 chwrs. I ddechrau dwi’n hoffi ‘prawns’. Fel prif gwrs byddaf yn dewis ffiled o stêc a sglods, a fy hoff bwdin yw crymbl mwyar duon, mmmmmm.
Elin: Cŵl, mae’r holl sôn am fwyd yn fy ngwneud yn llwglyd! Cwestiwn nesaf, beth yw dy hoff anifail?
Mr Derbyshire: Ci yw fy hoff anifail.
Henry: Wel dyna ddiddorol, a diolch am dy amser Mr Derbyshire.
Rydym yn gobeithio bod Mr Derbyshire wedi mwynhau ei wythnosau cyntaf yma yn Ysgol Ciliau Parc a phob lwc iddo.
Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Elin, Henry, Lili-Wen a Gwenno, blwyddyn 5 a 6 Ysgol Ciliau Parc.