Ardal Chwarae Newydd

Lle chwarae newydd i ddosbarth Cadwgan

Plant Ysgol Ciliau Parc
gan Plant Ysgol Ciliau Parc

Dros wyliau’r Haf, roedd Dylan, Jac, Mrs Jenkins a sawl helpwr arall yn brysur yn creu ardal chwarae newydd yn Ysgol Ciliau Parc. Mae’r ardal chwarae i fyny drws nesaf i’r cantîn.

Roedd rhaid palu a symud pridd o’r ardal ac yna roedd angen gwastadu’r tir.

Erbyn hyn mae plant dosbarth Cadwgan yn joio chwarae yn yr ardal. Hoffen ni ddiolch i Gwynfor am y teiars a Lampeter Trees am y darnau pren.

Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Tomos, Dylan, Jacob a Sion, blwyddyn 5 a 6 Ysgol Ciliau Parc.