Ffair Nadolig Llawn Bwrlwm

Cefnogaeth arbennig gan deuluoedd a ffrindiau Ysgol Ciliau Parc

Ffion Evans
gan Ffion Evans
Ffair Nadolig

Plant yr ysgol yn brysur iawn yn helpu.

Ffair Nadolig
Ffair Nadolig

Stondin mwyaf poblogaidd y prynhawn – Tombola ‘Sprout or Nowt’

Ffair Nadolig

Stondin Gacennau Ffein!

Ffair Nadolig

Stondin plant yr ysgol yn llawn o nwyddau

Ffair Nadolig

Stondin nwyddau plant yr ysgol

Ffair Nadolig

Nwyddau’r plant

Ffair Nadolig

Nwyddau’r plant

Ffair Nadolig

Nwyddau’r plant

Ffair Nadolig

Cefnogaeth arbennig gan y gymdeithas.

Ddydd Sul diwethaf, cynhaliwyd Ffair Nadolig blynyddol Ysgol Ciliau Parc yn Neuadd y Pentref. Roedd hi’n hyfryd gweld y neuadd yn llawn o deuluoedd a ffrindiau yr ysgol yn cymdeithasu ac yn cefnogi cwmnïau bach lleol.

Diolch yn fawr i’r 14 cwmni ddaeth â stondin yn llawn o nwyddau hyfryd i’w gwerthu.

Yn ychwanegol i’r cwmnïau, roedd rhieni a phant yr ysgol wedi trefnu:

  • Stondin Gacennau
  • Tombola ‘Sprout or Nowt’
  • Raffl
  • Cystadleuaeth Enwi’r Tedi
  • Stondin Nwyddau Plant yr Ysgol

Roedd holl blant yr ysgol wedi bod yn brysur yn creu nwyddau i’w gwerthu ar ein stondin. Crëwyd addurniadau pren lliwgar, peli llawn eira i’w rhoi ar y goeden, rhubanau gwallt del a phecynnau o ‘marshmallows’ melys a siocled.

Rhaid diolch o galon i aelodau ffyddlon o Gymdeithas Rhieni a Ffrindiau yr ysgol am eu gwaith i drefnu’r Ffair ac am helpu mewn unrhyw ffordd.

Codwyd ychydig dros £1800 i’r ysgol. Diolch yn fawr iawn i bawb.

Welwn ni chi’r flwyddyn nesaf!