Cefn y Rhwyd yn y Vale 2

John Jones a Geraint Davies fuodd yn cnoi cil ar berfformiad Cymru yn erbyn Iran

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Fel rhan o arlwy ‘Gŵyl Cymru’ Cered a Theatr Felinfach fe wnaeth Rhodri Francis a finne ddychwelyd i Dafarn y Vale ar ddydd Gwener Tachwedd 25ain ar gyfer recordio rhifyn arbennig arall o sioe bêl droed ‘Cefn y Rhwyd’ a hynny er mwyn ymateb i ail gêm grŵp Cymru yn erbyn Iran.

Yn ymuno â ni ar y sioe y tro hwn roedd John Jones, Hyfforddwr CPD Sêr Dewi a Geraint Davies, Ysgrifennydd Cynghrair Costcutter Ceredigion. Diolch o galon i’r ddau am eu hamser a’u cyfraniadau gwybodus, hwyliog a difyr.