‘Hwrê’ i’r criw yma o Aberaeron!

Wyth ffrind yn nofio i helpu dau achos da.

gan Mair Jones
Llun Pip May John

Dyma’r criw, wedi blino, ond yn hapus iawn ar ddiwedd y dydd!

Dydd Sul diwethaf roedd yna fwrlwm mawr ym mhwll nofio Aberaeron wrth i griw o ffrindiau lwyddo i nofio 551 hyd y pwll er mwyn helpu dau achos sy’n bwysig iddynt. Mae hyn bron yn 7 milltir!

Gosodwyd nod o £250, ond hyd yn hyn maent wedi cyrraedd dros £1,000!

Mae gan Julia, ffrind da iddynt sy’n 9 oed gyflwr prin sy’n effeithio ar ei chyhyrau, ac mae hi yn wythnosol yn teithio i Drefdraeth, Sir Benfro i dderbyn gwersi marchogaeth arbenigol sy’n ei helpu’n fawr. Roedd y ffrindiau yn awyddus bod Julia yn gallu parhau gyda’r gwersi wrth i gostau godi!

Lleoliad sy’n agos iawn at eu calonnau yw Pwll Nofio, Aberaeron sy’n cael ei redeg gan bwyllgor o wirfoddolwyr. Felly, penderfyniad y plant oedd rhannu eu henillion rhwng y ddau achos.

Da iawn pawb am ymdrech anhygoel!