Y Vale, Y Bêl a’r Byd

Noson o farddoniaeth i ddathlu ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd

gan Ianto Jones
Noson-o-Farddoniaeth

Gwenallt, Ceri, Idris ac Hywel yn diddanu’r gynulleidfa

I ddathlu’r ffaith fod Cymru wedi llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd, cynhaliwyd noson o Farddoniaeth yn Nhafarn y Vale nos Lun, 28 Hydref yng nghwmni rhai o Brifeirdd amlycaf Ceredigion.

Ceri Wyn Jones, Gwenallt Llwyd Ifan, Hywel Griffiths ac Idris Reynolds oedd y gwesteion a chafwyd noson hwylus iawn gyda’r pedwar ohonyn nhw yn hel atgofion am eu cysylltiadau â phêl-droed o chware i Glwb y Bont i gwrdd â chyn gôl-geidwad Cymru, Dai Davies. Darllenodd y beirdd eu cerddi a’u limrigau hefyd.

Er bod ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd bellach ar ben, mae’r holl gyffro a deimlwyd dros yr wythnosau diwethaf yn cadarnhau bod y gefnogaeth i’r Tîm Pêl-droed Cenedlaethol yn iachach nag erioed.

Gobeithio y cawn ni gynnal nosweithiau tebyg yn y dyfodol (ymhen pedair blynedd, gobeithio!)