Nefi Bananas!

DRAMA ‘NÔL I NYTH CACWN’ AR DVD ERBYN ‘DOLIG.

Euros Lewis
gan Euros Lewis
selfie-Meleri

Actorion y ddrama: Dafydd Jones, Ifan Gruffydd, Susan Rees, Gwyneth Davies a Meleri Morgan

IMG_2377

Elin a Gary Jones yn paratoi set Nol i Nyth Cacwn ar gyfer ymarfer yn Festri Troedyrhiw

Clawr-terfynol-2

Clawr y dvd yn barod i’r wasg

Wedi’r galw a’r galw am seddau i’r ddrama dros yr haf mi fydd NÔL I NYTH CACWN i’w gweld ar dvd cyn y Nadolig.

Er i Nyth Cacwn brofi’n un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C ym 1989 ni chomisiynwyd ail gyfres. Ond yn hytrach na syrthio gan bwyll bach i ebargofiant mae poblogrwydd y gyfres wedi tyfu a thyfu o ddegawd i ddegawd.

‘Yn rhyfedd ddigon, plant a phobol ifenc yw dilynwyr selocaf Nyth Cacwn o’r wythdegau hyd y dydd hwn,’ medd Ifan Gruffydd, actor a chyd-awdur y gyfres. ‘Ma’ hi pe bai’r ffarm fach deuluol hon wedi dod yn rhan o etifeddiaeth ddiwylliannol cefn gwlad – yn cael ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth,’ meddai.

Daeth yr unig gyfres honno i ben â Delyth, merch Nyth Cacwn, yn bwrw-gered i fola-berfedd y nos yng nghwmni Wiliam, y gwas, gan adael sypreis ei pharti dyweddïo o’i hôl. Ers hynny, mae cenedlaethau o ddilynwyr wedi crafu pen o ran y cwestiwn mawr: Beth ddigwyddodd wedyn?

Dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, dyma’r cwestiwn mae’r ddrama – o’r diwedd – yn ei ateb wrth i Wiliam fentro nôl i glôs Nyth Cacwn am y tro cyntaf ers y noson ddramatig honno.

Ffilmiwyd Nôl i Nyth Cacwn o flaen cynulleidfa fyw yn Theatr Felin-fach fis Hydref eleni.

‘Ma’ llwyfannu’r ddrama wedi bod yn dipyn o brofiad,’ medd Ifan. ‘Gyda gymaint o alw am docynnau, â’r fath ymateb i bob perfformiad, mae’n amlwg fod dal lle cynnes iawn i’r ffarm fach hon a’i chymeriadau yng nghalonnau gymaint o bobol. Gwych o beth oedd ffilmo’r perfformiad olaf yn Felin-fach – lond theatr o bobol gyda ni yng nghegin Nyth Cacwn yn cydymdeimlo, cyd-lawenhau a chyd-chwerthin yn iach,’ meddai.

Ie, comedi i ’sgawnu’r enaid a chynhesu’r galon yw Nôl i Nyth Cacwn. Ond wrth wylio’r dvd mynnwch facyn wrth law ar gyfer sychu ambell i ddeigryn bach hefyd.

DVD DRAMA NÔL I NYTH CACWN – AR GAEL YN SWYDDFA’R POST, FELIN-FACH A SIOP Y SMOTYN DU YN FUAN.