5 anrheg perffaith i bob dysgwr y Nadolig ‘ma

Syniadau da

Nia Llywelyn
gan Nia Llywelyn

Mae’n gyfnod prysur felly allwn ni awgrymu pump peth fyddai rhywun sy’n dysgu Cymraeg wrth eu bodd yn derbyn:

1. Mygiau Ymarfer

Cyfle perffaith i fwynhau paned o de neu goffi gyda dysgwr arall neu siaradwr Cymraeg yn ymarfer patrymau iaith. Mae dewis o ddau fyg gan Paned, ..a beth am brynu costeri hefyd!

2. Tanysgrifiad blwyddyn i Lingo Newydd.

Cylchgrawn gwych llawn erthyglau diddorol i ddysgwr o bob safon sy’n diweddaru’r darllenydd gyda beth sy’n digwydd yng Nghymru. Sypreis bach hyfryd i ddod trwy’r drws bob dau fis!

Lingo Newydd

Y cylchgrawn i bobl sy’n dysgu Cymraeg

A cofiwch sôn am y dudalen wê lingo360!

3. Gêm Gair am Air neu Sgrabl Cymraeg

Mae’n llawer o hwyl i ddysgu iaith a chwarae gemau yr un pryd!

Ewch amdani!

https://www.ylolfa.com/products/9780862436490/gair-am-air

4. Tocyn llyfr Gwales i brynu llyfrau o gyfres Amdani.

Mae yna gyfres arbennig nawr i bobl sy’n dysgu. Bydd cyfres Amdani yn arwain dysgwyr at lyfrau addas i’w safon.

https://learnwelsh.cymru/learning/amdani-series

5. Casgliad o CDs Cymraeg

Does dim byd gwell na gweld rhywun yn darganfod cerddoriaeth maen nhw’n ei fwynhau yn Gymraeg. Mae cerddoriaeth yn agor y drws i’r diwylliant Cymraeg. Beth an brynu tocyn o siop lyfrau Cymraeg i brynu eu dewis nhw o CDs (a chael sgwrs yn y siop yr un pryd… yn Gymraeg)

https://cantamil.com/collections/cds