Tyddewi 8 – 10 Aberaeron

Gêm drafferthus

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Gethin-Jenkins

Gethin Jenkins – sgoriwr y ddwy gais (Llun gan Rhys Hafod)

Gêm bant yn Nhyddewi oedd gan Aberaeron y Sadwrn diwethaf. Yn anffodus i’r nifer dda o gefnogwyr  y Gwylanod a deithiodd i waelodion Sir Benfro, ni chafwyd gêm dda o rygbi.

Er i’r ddau dîm ymdrechu i chwarae gêm agored, ni chafwyd hynny gan i’r elfennau a chwiban cyson a dadleuol y dyfarnwr rhoi stop ar hynny.

Tyddewi yn dîm cryf

Mae Tyddewi yn dipyn cryfach tîm y tymor yma nag y maent wedi bod dros y tymhorau diwethaf; yn enwedig dydd Sadwrn diwethaf gan iddynt chwarae tri chwaraewr ar fenthyg gan Arberth.

Anodd fu ymdrech yr ymwelwyr i dorri trwy amddiffyn cryf y tîm cartref. Bu’r gwynt oedd yn chwythu’n groes y cae yn gwneud trafod y bêl a thaflu i mewn i’r llinellau yn rhwystredig hefyd.

Er hynny gyda’r rhan fwyaf o’r chwarae yn digwydd rhwng y ddwy linell 22 mi wnaeth y tîm cartref ennill tir trwy eu blaenwyr a sgorio cais wedi 20 munud o chwarae. Methiant fu’r trosiad.

Wedi’r ail-ddechrau bu Aberaeron yn pwyso yn hanner eu gwrthwynebwyr am tua deng munud cyn i’r olwyr gael eu dwylo ar y bêl i roi Gethin Jenkins trwyddo am gais. Eto, methiant fu’r trosiad.

Gyda’r hanner cyntaf yn tynnu at ei therfyn bu Tyddewi yn llwyddiannus gyda chic gosb i adael y sgôr yn 8 – 5 ar  yr egwyl.

Ail hanner

Bu’r rhan fwyaf o’r chwarae wedi ail-ddechrau yn hanner Tyddewi. Er cael eu siâr o feddiant a thiriogaeth mi gymerodd tan y pum munud olaf cyn i unrhyw dîm sgorio.

Oherwydd anafiadau  i rai o chwaraewyr allweddol Aberaeron, mae’n bosib bod eu  habsenoldeb wedi cael ei amlygu yn y gêm hon. Nid oedd y chwarae i’w weld mor llyfn ag arfer ac mi oedd hi’n ymdrech anodd i dorri trwy’r llinell fantais.

Eilyddio

Gyda thua chwarter awr i fynd a’r tîm cartref ar y blaen, mi wnaed rhai newidiadau. Un o’r eilyddion a ddaeth i mewn i safle’r maswr oedd Jac Crompton. Dyma ei gêm gyntaf dros y tîm cyntaf wedi blynyddoedd o chwarae dros y timau iau a’r ieuenctid. Rhaid canmol ei chwarae, gan iddo wneud gwahaniaeth. Uchafbwynt y dydd oedd gweld Jac yn rheoli’r gêm gan gadw Aberaeron i bwyso tu fewn i 22 y tîm cartref gyda’i weledigaeth a’i gicio cywir. Mae dyfodol  Aberaeron yn edrych yn addawol gyda Jac Crompton wrth y llyw.

Rhaid cofnodi taw pas Jac ddaeth â’r fuddugoliaeth i Aberaeron. Wedi hir bwyso ar linell gais Tyddewi  a methu sgorio am gyfnod hir mi gafodd y bêl ei lledu. Gwelodd Jac ei gyfle a gan adael allan ddau  ymosodwr, mi daflodd bas hir perffaith at Gethin Jenkins i redeg dros y llinell am ei ail gais ac i roi Aberaeron ar y blaen am y tro cyntaf.

Diweddglo cyffrous

Roedd yna bum munud o’r gêm i fynd pan ail-ddechreuwyd y chwarae. Dyfarnwyd cic gosb i Dyddewi  yn syth, ond methiant fu’r ymdrech gyda’r bêl yn dal yn y chwarae. Bu’n ymdrech arwrol gan Aberaeron i atal y tîm cartref rhag croesi’r llinell ac i beidio â rhoi cic gosb i ffwrdd. Yn y diwedd gwnaeth y dyfarnwr chwythu i nodi diwedd y gêm gan ollwng pwl o ryddhad yng nghalonnau’r cefnogwyr a deithiodd yr holl ffordd i Dyddewi.