O’r Ddafad i’r Siop

Ymweliad Addysgiadol i Felin Wlân Drefach

Plant Ysgol Dihewyd
gan Plant Ysgol Dihewyd

Fel rhan o’n thema Cefn Gwlad, fe aethom am ymweliad i’r Felin Wlân yn Nrefach i ddilyn taith y gwlân o’r Ddafad i’r Siop.

Roeddwn wedi gweld sut mae’r gwlân yn cael ei falu mewn i ddarnau bach ar beiriant a oedd yn cael ei alw’n Y Diafol, sut mae cribo’r gwlân i’w lanhau ac yna sut mae’r broses yn datblygu er mwyn cael y gwlân yn barod i’w droi mewn i edau yn barod i greu blancedi, shol ayb.

Roedd Non a Wendy wedi esbonio’r camau yn dda ac hefyd dangos i ni sut roedd pobl yn gweithio yn yr hen oes.

Ar ôl cinio, roedd pawb wedi cael y cyfle i greu darn o waith creadigol gan ddefnyddio ffelt.

Roedd hyn yn hwylus iawn ond yn broses hir o ddylunio, rholio, sychu ac yna golchi allan y sebon cyn sychu allan eto.