Gwobr y Gymuned 2022

Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad yn cyflwyno Gwobr y Gymuned i Michael Morgans

Clerc Llanfihangel Ystrad
gan Clerc Llanfihangel Ystrad

Dyfarnwyd Gwobr y Gymuned 2022 i Michael Morgans, Felinfach.

Enwebwyd Michael am ei wasanaeth gydag Ambiwlans Sant Ioan am bron i  drigain mlynedd a fel hyfforddwr Cymorth Cyntaf gyda’r gwasanaeth yn lleol ac yn genedlaethol.  Bu’n rhoi o’i amser i ddysgu cenedlaethau o blant, pobol ifanc ac oedolion yn y sgiliau achub bywyd hynny sydd mor bwysig  – heb dderbyn ceiniog am ei amser a’i arbenigedd.

Mae Michael hefyd yn cymryd gofal – yn wirfoddol – am y diffibrilwyr yn ei filltir sgwâr. Mae’n rhoi gwybod yn syth os oes angen batri neu badiau newydd arnynt ac mae ein diolch iddo fel Cyngor Cymuned am ei gyngor a’i help wrth i ni fynd ati i brynu diffibriliwr newydd yn Temple Bar yn ddiweddar.

Derbyniodd Michael gydnabyddiaeth yr MBE yn y flwyddyn 2000 am ei ymroddiad i’r gwasanaeth trallwyso gwaed.

Fe gofiwch mae’n siwr, wrth ymgymryd â’i ddileit o gerdded, llwyddodd Michael i arbed difrod mawr i Ysgol Felinfach pan sylwodd ar dân yn y gegin yn blygeiniol rhyw fore.

Pleser felly oedd cyflwyno plac Gwobr y Gymuned 2022 i Michael a llongyfarchiadau mawr.

Yn y llun:

Y Cyng. Lyn Williams (Cadeirydd y Cyngor Cymuned), Michael Morgans, Y Cyng. Dan Evans (Is-Gadeirydd)