Dod am dro i Aberaeron!

Degau o hen geir wedi tyrru i’r dre!

gan Mair Jones

Dydd Sadwrn diwethaf teithiodd dros hanner cant o hen geir a oedd yn rhan o Rali Gymreig Blynyddol y ‘Vintage Sports Car Club’ o Landrindod drwy Gwm Ystwyth a Thregaron i Aberaeron.

Wedi cyrraedd am ginio tua hanner dydd, cafodd nifer o bobl leol gyfle i edmygu’r ceir ym maes parcio Penmorfa.

Roedd y ceir yn dyddio nôl i 20au a 30au y ganrif ddiwethaf, ac ambell i un cyn hynny!

Dyma beth oedd gwledd annisgwyl, gyda’r perchnogion bob un yn arddangos eu ceir ar eu gorau!