‘Ddoe, Heddi a Fory’

‘Ceredigion…. Y sir sy’n llawn hanes a chwedlau! Ond beth am yfory?’

gan Sioned Elias-Davies

Y golau. Y gynulleidfa. Y llwyfan. Wedi dros wythnos yn ôl nawr, perffomiwyd y sioe ‘Ddoe, heddi a fory’ gan griw Ysgol Berfformio Thear Felinfach. Criw o blant o 7 i 18 yn perfformio cynhyrchiad cyffrous yn seiliedig ar berfformiadau adnabyddus hen a newydd, yn ogystal â rhai darnau gwreiddiol, er engraifft monologau y criw hŷn gafodd eu hysgrifennu dan arweiniad Owen Thomas. Daeth y proffesiynol i helpu’r ysgol Berfformio hefyd, mae rhein yn cynnwys Nia Lynn, Owen Thomas, Anna ap Roberts a Carys Haf. Sioe llawn dirgel a hwyl.

Dwedodd un o weithwyr caled Theatr Felinfach y canlynol ar ei thudalen ‘Facebook’:

‘Wythnos ers i griw Ysgol Berfformio gwneud sioe ‘Ddoe, heddi a fory’. Braf oedd gweld pob un o’r aelodau yn disgleirio ar y llwyfan. Roedd hi’n noson llawn hwyl ac ambell i ddeigryn yn y gynulleidfa wrth i’r aelodau cau’r sioe gyda’r neges, beth bynnag a ddaw maen nhw wedi gwreiddio yn eu hardal, ac mae’r ardal yn rhan ohonyn nhw cymaint y maen nhw’n rhan o’r ardal.’

Geiriau gwir iawn. Ac o olwg wynebau pawb ar ôl y sioe, nid yw hyn yn sioc.

Y golau yn eich llygaid. Y cymeradwyo yn cyrraedd y clustiau. Fel un o aelodau hŷn yr ysgol berfformio, hoffwn drosglwyddo y teimlad o fod yn y sioe.

Rydw i wedi bod yn rhan o’r ysgol Berfformio ers y dechrau a wastad uchafbwynt y flwyddyn yw i wneud y sioe. Dyw’r teimlad byth yn un gwael. Faint bynnag o ymarfer, gweithio a weithiau bach o ddwli, sy’n digwydd rhwng waliau’r theatr – mae’r sioe wastad yn wych ac yn lot o sbri.

Y sioe mae pawb yn siarad amdani. Y sioe gan ieuenctid Ceredigion. Edrychwn ymlean at ail-ddechrau ar ôl y Pasg er mwyn gweld beth fydd yn dod nesaf.