Daeth nifer o ieuenctid Aberaeron i’r brig yng nghystadlaethau llwyfan Eisteddfod Sir Gâr yr wythnos ddiwethaf.
Llongyfarchiadau calonnog iddynt i gyd. Nid yn aml y gwelir yr holl wobrau yn dod i’r un ardal ac Ysgol.
Cafodd Ela Griffiths Jones dwy wobr gyntaf unigol, sef yr Unawd Alaw Werin a’r Unawd Cerdd Dant i flynyddoedd 7, 8 a 9.
Daeth Celt Dafydd adre gyda dwy fedal Aur trwy ennill yr Unawd Bechgyn a hefyd y Ddeuawd Bl. 7, 8 a 9 gydag Ela.
Yn y cystadaethau offerynnol llwyddodd Claire Lloyd hefyd i ddychwelyd gyda dwy wobr gyntaf, sef yn yr Unawd Piano a’r Unawd Telyn i Fl. 7, 8 a 9.
Cafodd Fflur McConnell yr ail wobr yn yr Unawd Merched i’r un oed ac fe ddaeth Ela ac
Olivia Davies yn y trydydd safle yn y Ddeuawd Cerdd Dant.
Diolch i chi gyd am gynrychioli Aberaeron mor arbennig.