Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Mae Ysgol Gynradd Dihewyd yn cynnal digwyddiad er mwyn dathlu ei bodolaeth cyn iddi gau’r drysau am y tro olaf adeg y Nadolig.
Ble – Neuadd Bentref Dihewyd
Dyddiad – 5ed o Hydref
Amser – 5.30 tan hwyr
Mynediad yn £5 (Plant cynradd am ddim).
Byddwn yn dechrau gyda gweithgareddau hwyliog i’r plant dan ofal medrus Lleucu Ifans, Actifiti. Yn ogystal bydd Lleucu yn darparu ‘Disgo Tawel’ a fydd yn gryn dipyn o sbort!
Yna edrychwn ymlaen at gerddoriaeth fyw gan y band Cymraeg poblogaidd, Baldande! Bydd y band yn chwarae amrywiaeth o ganeuon Cymraeg a Saesneg.
Bydd amrywiaeth o fwyd blasus ar gael gan gwmni bwyd lleol, sef Manuka ac mae croeso i chi ddod â diod eich hun.
Mae’n argoeli i fod yn noson arbennig i’r teulu cyfan. Dewch yn llu!