Nifer yn disgleirio

Aberaeron 43 – 12 Pontyberem

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis
Ceri-PontyberemRhys Hafod

Seren y gêm – Ceri Davies

Dyfrig-Pontyberem-2Rhys Hafod

Dyfrig Dafis yn curo’r amddiffyn i sgorio

Steff-PontyberemRhys Hafod

Steffan Rees yn ennill y ras

Bleddydnd-PontyberemRhys Hafod

Bleddyn Thomas ar fin sgorio

Tîm yn cael eu hyfforddi gan Justin Lloyd, cyn-hyfforddwr Aberaeron oedd yr ymwelwyr â Pharc Drefach y Sadwrn diwethaf. Heb chwarae adref ers rhai wythnosau, roedd hi’n braf gweld tyrfa dda yn cefnogi’r bechgyn yn erbyn Pontyberem.

Gyda’i safle yn weddol isel yn y tabl roedd hi’n syndod i weld Pontyberem yn dechrau’r gêm yn gryf ag yn sgorio cais o fewn munudau. Mi wnaeth Aberaeron frwydro’n ôl yn raddol a bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda chic gosb.

Y rheng ôl yn creu cais

Mi wnaeth y blaenasgellwr, Steffan “Bwtch” Jones ddwyn pêl Pontyberem o linell ar y llinell hanner a’i tharo i lawr at y mewnwr, Rhodri Thomas. Dyna ddechrau’r symudiad wnaeth ddodi Aberaeron ar y blaen. Mi ddanfonodd Rhodri bas hir at yr wythwr, Will James oedd yn sefyll ar linell ddeg Aberaeron. Un peth oedd ar feddwl yr wythwr, sef brasgamu ymlaen tuag at y llinell gais. Mi dorrodd trwy’r amddiffyn gyda rhediad nerthol gan groesi i mewn i 22 Pontyberem cyn trosglwyddo’r bêl i’w bartner yn y rheng ôl, Gethin Dafis â wnaeth guro ei wrthwynebwr i dirio’r bêl am gais gofiadwy i Aberaeron.

Y tîm cartref yn ymestyn eu mantais

Rhyw bum munud cyn diwedd yr hanner cyntaf, ac wedi tipyn o bwyso ar amddiffyn yr ymwelwyr mi wnaeth Aberaeron ennill llinell tu fewn i 22 Pontyberem. Ynghanol yr olwyr oedd seren y gêm a’r prop, Ceri Davies. Brwydrodd Ceri dros y llinell fantais a chyflwyno’r bêl i ddwylo’r olwyr. Cyn i amddiffyn Pontyberem sylweddoli beth oedd ar fin digwydd, roedd yr asgellwr, Dyfrig Dafis wedi rhedeg o’i cwmpas i sgorio. Bu Rhodri Jenkins yn llwyddiannus gyda’i ail drosiad i osod y sgôr yn 17 – 5 gyda hanner amser yn  agosáu.

Pontyberem yn dal yn y gêm

Pontyberem wnaeth ennill y bêl wedi ail ddechrau chwarae a chyda amddiffyn braidd yn sigledig mi wnaeth yr ymwelwyr sgorio trosgais cyn diwedd yr hanner i adael ond pum pwynt o fantais i’r tîm cartref.

 Gwell perfformiad yn yr ail hanner

Er yr holl feddiant a thiriogaeth yn yr hanner cyntaf, ond pum pwynt ar y blaen oedd y tîm cartref. Ta beth gafodd ei ddweud ar hanner amser, mi wnaeth Aberaeron ledu’r bêl tipyn mwy yn yr ail hanner.

O fewn munudau, roeddent wedi sgorio. Trwy ennill llinell y tu fewn i hanner yr ymwelwyr, trosglwyddwyd y bêl i ddwylo’r olwyr ag at y cefnwr, Jac Crompton. Gyda’i gyflymder mi wnaeth Jac dorri trwy’r amddiffyn heb ei gyffwrdd i sgorio cais arbennig. Daeth yr ail gais i’r maswr Steffan Rees wedi iddo daro i lawr cic o dan bwysau gan faswr Pontyberem. Enillodd Steffan y ras i dwrio’r bêl am gais haeddiannol.

Daeth ail gais i Jac Crompton o linell ychydig tu fewn i hanner y Bont. Enillwyd y bêl ac wedi dwy sgarmes daeth y bêl i ddwylo’r cefnwr a wnaeth eto guro’r amddiffyn gyda’i gyflymder i sgorio.

Er i Bontyberem ymdrechu’n galed hyd y diwedd roedd ffitrwydd ag ymroddiad Aberaeron dipyn yn well ac mi ddaeth cais arall i’r tîm cartref trwy ddwylo Bleddyn Thomas o’r ail reng. Ategwyd at y sgôr trwy drosiad Rhodri Jenkins i ychwanegu at ei gic gosb a phedair trosiad cynt.

Gwnaeth nifer o chwaraewyr Aberaeron ddisgleirio yn yr ornest ’ma. Byddant yn teithio i Ddyffryn Aman y Sadwrn nesaf i chwarae’r Aman am y tro cyntaf ers deuddeng mlynedd. Gobeithio na fydd anafiadau cynyddol i chwaraewyr amharu ar eu perfformiad yn ystod yr wythnosau nesaf.

Clwb Athletic Aberystwyth 10 – 10 Gwylanod Aberaeron

Teithiodd y Gwylanod i Aberystwyth am gêm gyfeillgar nôs Fercher diwethaf ac mi gafwyd perfformiad arbennig gan y tîm ifanc i atal y tîm cartref cryf rhag ennill. Sgoriodd y mewnwr, Iwan Lloyd gais a’i throsi ac mi giciodd y cefnwr, Mathew Harries gic gosb dros y Gwylanod,

……………………………………………………………………

Ewch at dudalen Facebook y clwb i weld sawl fidio ardderchog o’r gêm wedi eu ffilmio gan Aled Bont Jones.