Cyflwyno siec i gael diffibriliwr newydd yn Neuadd Ciliau Aeron

Diolch i gasgliad cwrdd Diolchgarwch Eglwys Sant Mihangel, Ciliau Aeron

Alaw Fflur Jones
gan Alaw Fflur Jones
IMG_5063
IMG_5062
IMG_5061

Cynhaliwyd Cwrdd Diolchgarwch Eglwys Sant Mihangel, Ciliau Aeron ar ddydd Sul 27ain o Hydref dan ofal Ficer Beth Davies.

Braf oedd gweld cyn nifer yn bresennol a’r Eglwys wedi ei hadduro’n bwrpasol i’r achlysur. Roedd arian y casgliad yn mynd tuag at gael diffibriliwr newydd yn Neuadd Ciliau Aeron, â’r rhoddion yn mynd tuag at fanc bwyd Aberaeron. Hoffai’r Eglwys ddiolch yn fawr i bawb wnaeth gyfrannu.

Hyfryd oedd gweld Nigel ac Avril, sy’n aelodau o’r Eglwys a Phwyllgor Neuadd Ciliau Aeron yn cyflwyno siec o £255 i Rhian Thomas, Trysorydd Pwyllgor Neuadd Ciliau Aeron ar y 6ed o Dachwedd.