Blas ar ddramâu NEWYDD Theatr Troed-y-rhiw

Noson ddarlleniadau prosiect “O syniad i sgript”

Alaw Fflur Jones
gan Alaw Fflur Jones
IMG_5065
IMG_5070
20a2cd51-5fe7-4afb-b149

Noson llwyddiannus arall neithiwr yn Theatr Felinfach ar gyfer ein ail noson o ddarlleniadau prosiect “O syniad i sgript” mewn partneriaeth â Bwrlwm Arfor a CFfI Cymru Wales YFC.

Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi, a diolch yn fawr i’r aelodau o’r Ffermwyr Ifanc (CFfI Cymru Wales, YFC Cffi Ceredigion Ceredigion a Yfc C.Ff.I Sir Gâr Carms YFC) ac aelodau o gwmni Theatr Troed-y-rhiw am eu perfformiadau graenus ar y noson.

Llongyfarchiadau mawr i’r tri dramodydd Elain Roberts, Cerys Thomas-Ford a Bethan Jones ar eu dramâu, a diolch i’r mentoriaid Sian Summers, Branwen Davies, Iola Ynyr a Mared Llywelyn am eu mentora yn ystod y misoedd diwethaf.

Bydd y dramâu yn cael eu cyhoeddi yn eu cyfanrwydd yn llyfrgell dramâu Theatr Troed-y-rhiw ym mis Rhagfyr. Byddan nhw yna ar gael i gwmnïau drama, Clybiau Ffermwyr Ifanc a chymdeithasau lleol eu perfformio, gyda rhai o’r dramâu hefyd yn cael i’w perfformio’n llawn yn ŵyl ddrama Theatr Troed-y-rhiw yng ngwanwyn 2025.

Mae ein diolch hefyd yn fawr i Nico Dafydd sydd wedi bod yn brysur yn ffilmio’r holl brosiect… fideo i ddod yn fuan!