Llwybr Arfordir Ceredigion yn dathlu 15 mlynedd

Beth yw eich hoff ran chi o Lwybr Arfordir Ceredigion?

Ynys Lochtyn Walk

Beth yw eich hoff ran chi o Lwybr Arfordir Ceredigion?

Agorwyd y llwybr yn 2008 a hwn oedd ond yr ail lwybr arfordirol pell yng Nghymru. Mae’n rhan annatod o Lwybr Arfordir Cymru, sy’n ymlwybro 871 o filltiroedd o amgylch ein harfordir trawiadol.

Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn nadreddu ei ffordd rhwng aber afon Teifi yn y de ac Ynyslas ac aber afon Dyfi yn y gogledd, ac mae rhywbeth at ddant pawb ar hyd y 60 milltir o lwybr.

Mae’r clogwyni uchel yn gartref i nythfeydd adar y môr ac yn cynnig golygfeydd trawiadol dros Fae Ceredigion. Gellir gweld dolffiniaid drwy gydol y flwyddyn ac ar ddiwrnod clir mae mynyddoedd Eryri a’r Elenydd yn gefndir i’r cyfan. Mae’r traethau tywod a’r pentrefi lliwgar yn cynnig popeth sydd ei angen ar gyfer gwyliau glan môr, ynghyd â chyfleusterau i gerddwyr wrth iddynt fynd ar eu hynt ar hyd y llwybr. Mae rhannau byr o’r llwybr wedi’u gwella ac yn cynnig mynediad i’r rheiny sy’n defnyddio cadair olwyn, cymhorthion i symud a chadair wthio, fel y gall pawb fwynhau’r llwybr.

Cyfres o gylchdeithiau

I ddathlu’r pen-blwydd, rydym wedi creu cyfres o 26 cylchdaith gyda phob un yn manteisio ar ran o Lwybr yr Arfordir ond yn dychwelyd i’r man dechrau drwy ddilyn llwybrau mewndirol.

Gan ddechrau ym mis Ebrill hyd at fis Hydref, bydd taith gerdded newydd yn cael ei chyhoeddi bob wythnos ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor; Facebook, Twitter ac Instagram.

Bydd e-daflenni ar gael i’w lawrlwytho neu eu hargraffu o’r wefan, ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol megis siart milltiroedd Llwybr yr Arfordir i’ch helpu i gynllunio’r teithiau. Mae’r e-daflenni yn cynnwys map syml, pellter y llwybrau, pa wasanaethau sydd ar gael megis toiledau, parcio a thrafnidiaeth gyhoeddus, a gwybodaeth am y daith gerdded ei hun megis nifer y gatiau ac a oes camfeydd neu risiau.

Yn ôl adolygiad diweddar gan Lywodraeth Cymru o Lwybr yr Arfordir, mae creu cylchdeithiau sy’n cynnwys pentrefi bach mewndirol yn flaenoriaeth strategol. Mae llwybrau cylchol yn ei gwneud hi’n hwylus i gerdded rhannau o Lwybr yr Arfordir heb orfod gwneud taith ymlaen a nôl, neu gael dau gerbyd, neu fod dan bwysau i gyrraedd pen eich taith i ddal y bws yn ôl. Eu bwriad yw cysylltu â phentrefi bach sydd i mewn o’r arfordir ac sydd yn aml â gwasanaethau i gerddwyr neu lefydd diddorol a allai gael eu hanwybyddu fel arall o fynd ar daith unionsyth i’r gogledd neu i’r de.

Cwmtydu i Geinewydd

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio: “Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn rhan arbennig iawn o Lwybr Arfordir Cymru. Dwi wedi cerdded ambell i ardal o’r llwybr, rhan fendigedig rhwng Cwmtydu a Cheinewydd ac, wrth gwrs, yn nes at adre yw’r rhan ro’n i’n defnyddio llawer fel plentyn, sef rhwng Aberporth a Mwnt. Nododd Iolo Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron mai Cwmtydu i Langrannog yw ei hoff ddarn o Lwybr Arfordir Cymru. Mae mwy a mwy o bobl yn gweld bod cerdded Llwybr Arfordir Ceredigion yn fuddiol i’w lles meddyliol a chorfforol ac mae ein ceidwaid a’n gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith rhagorol i gynnal a monitro cyflwr y llwybrau.”

Mwy o wybodaeth

Darperir rhagor o wybodaeth drwy gyfryngau cymdeithasol y Cyngor Sir gan gynnwys gwybodaeth am chwe thaith tywys a gynhelir dros wyliau’r haf fel rhan o ddathliadau’r flwyddyn arbennig hon.

Fel sy’n wir bob tro wrth fynd allan i gefn gwlad, mae esgidiau cadarn yn hanfodol yn ogystal â dillad sy’n addas i’r tywydd, a dŵr yfed. Mae’n syniad da cario map OS diweddar o’r ardal a chofiwch ddilyn y Côd Cefn Gwlad.