Bu’n gêm gartref gyntaf y tymor i’w chofio i Glwb Pêl-droed Felinfach wrth iddyn nhw guro pencampwyr y llynedd Llandudoch, 3-2.
Aeth y tîm cartref ar y blaen o fewn y deg munud agoriadol diolch i gôl arbennig gan Osian Kersey. Go dawel fu pethau am weddill yr hanner ond dyblwyd mantais Felinfach ymhen yr awr pan beniodd Aled Davies i gefn y rhwyd.
Er i un o’i chwaraewyr weld y garden goch, tarodd yr ymwelwyr yn ôl gyda dwy gôl slic i ddod â’r sgôr yn gyfartal a doedd pethau ddim yn argoeli’n dda i’r tîm cartref wedi hynny.
Ond gyda dwy funud yn weddill, sicrhaodd Ben Davies y triphwynt a buddugoliaeth hanesyddol i Felinfach yn dilyn camgymeriad gan gôl-geidwad yr ymwelwyr.
Roedd cryn dipyn o ddathlu pan chwythwyd y chwiban olaf gan mai dyma’r tro cyntaf i’r Clwb guro Llandudoch ers blynyddoedd.
Oddi cartref yn erbyn Llandysul yw’r her nesaf i Felinfach, heno am 6:30 gan obeithio am ganlyniad a pherfformiad da arall.