Gwobrwyo Gwirfoddolwyr Clwb Criced Lleol

Paul Graham ac Arif Saad o Glwb Criced Aberaeron yn serennu

gan Alwen Thomas

Yng Ngerddi Soffia yn y brifddinas neithiwr, cynhaliwyd noson wobrwyo Gwirfoddolwyr Clwb Criced Cymru. Roedd 9 categori gyda 60 enwebiad.

Roedd y Prif Swyddog Gweithredol Leshia Hawkins wrth law i gyflwyno’r tlysau i’r holl enillwyr teilwng.

GwobrCysylltu Cymunedau

Paul Graham ac Arif Saad o Glwb Criced Aberaeron oedd yn fuddugol yn y categori hwn.

Mae’r ddau aelod wedi cynnal cystadleuaeth chwech bob ochr, er budd elusennau. Maen nhw hefyd wedi recriwtio chwaraewyr newydd yn ogystal ag ailsefydlu tím merched, gyda 23 o chwaraewyr. Cawsant eu cydnabod hefyd am gysylltu á chynghorwyr lleol a chynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned. Yn ogystal, maen nhw wedi sefydlu digwyddiad tri-gyfres, a chynyddu presenoldeb y clwb ar gyfryngau cymdeithasol. Cafodd Arif ei gydnabod hefyd am helpu rhedeg Cricket AllStars  a Dynamos ar gyfer plant lleol, gyda niferoedd mawr yn mynychu.

Pob hwyl i’r clwb wrth iddynt fynd o nerth i nerth, a diolch i Paul ac Arif am eu cyfraniadau gwerthfawr.